22627 - Delivery Manager - Cardiff Civil & Family Justice Centre
United Kingdom • Permanent • Competitive
Back to Job Search

22627 - Delivery Manager - Cardiff Civil & Family Justice Centre

New Easy Apply
United Kingdom On-site Permanent 23 Applications
Competitive
Full-time
Posted 23 Sep 2026
Expires 23 Oct 2026

Job description

Proud to serve. Proud to keep justice going.

Our Delivery Managers play a critical role helping deliver justice. They are responsible for management of day-to-day operations within their area. Driven by commitment to provide excellent customer service through their team, they recognise that employee engagement, morale and motivation is key to delivering a highly effective performance. If you’re customer focussed and intent on delivering excellent service, then this is an exciting leadership role.

About us

HM Courts & Tribunals Service (HMCTS) is responsible for the administration of criminal, civil and family Courts and Tribunals in England, Wales as well as the reserved unified tribunals across the United Kingdom. Our roles support our service users and colleagues within HMCTS, where people and businesses access potentially life-changing justice. We’re looking for individuals who are committed to public service and making a difference in people’s lives to deliver justice.

About your role

The role of a manager is at the heart of HMCTS operations, shaped by the Civil Service Line Management Standards. It’s rewarding, challenging, and essential to our success. We’re looking for managers who can lead their teams to deliver high performance, manage attendance effectively, and champion reward and recognition.

You will be responsible for the smooth running of Cardiff Civil & Family Justice Centre, 2 Park Street, Cardiff CF10 1ET, leading your team of EO managers and other staff, and supporting your operations manager to meet operational needs, deliver performance objectives and provide a consistent and customer-focused service

You’re familiar with work environments that are process and compliance driven. You give guidance and direction to your team, to support delivery of the overall business plan. You will make sure that performance outcomes are met, and the team is resourced and trained effectively to meet your allocated budget, identifying and implementing solutions to problems. You can develop effective relationships with all key stakeholders, which will include the judiciary.

Please refer to the role profile attachment for to understand more about this key leadership position.

Essential knowledge, skills and experience

  • People management skills to successfully lead your teams, with the coaching aptitude to support and empower your people. Allowing people to develop the skills, confidence and experience to independently deal with business and people related issues.
  • Management skills; ability to plan, set realistic performance measures, delegate and review progress to improve performance and manage risks.
  • Able to build and maintain effective relationships with key internal and external stakeholders at all levels. To influence and negotiate to resolve competing priorities and issues.
  • Effective communication skills including delivering and leading on key messages, ensuring that they are understood and implemented consistently.
  • Ability to analyse data, identify trends and workflow requirements to make informed decisions that contribute to local and national priorities and improving service delivery.

Your development

Our HMCTS Leadership Development offer is designed to strengthen your leadership skills, with practical tools and learning that fit around your role. From bite-sized learning and interactive workshops to deeper insights through our Accountability & Decision-Making framework, we’ll equip you to lead with impact, inspire and drive performance across the organisation.

If you are ready to take on a challenging and rewarding role with real purpose, apply today.

About our benefits

We reward our people for their hard work and commitment. We have a number of family

friendly and flexible working polices that will help you achieve a healthy work-life balance. In addition, we offer a range of employee benefits which include generous annual leave, a highly competitive contributory pension scheme, childcare benefits, season ticket and bicycle loans.

Further details:

New recruits to the Civil Service joining MoJ are expected to join at the band minimum.

These operational roles are customer facing, requiring successful applicants to be office based to provide HMCTS services to the public.

Standard full time working hours are 37 hours per week. HMCTS welcomes part-time, flexible and job-sharing working patterns, where they meet the demands of the role and business needs and are agreed prior to appointment. All applications for part-time, flexible and job-sharing working patterns will be considered in accordance with the MoJ’s Flexible Working policy.

This is a business-critical role requiring full-time hours but would also consider job share.

Version in Welsh

Yn falch o wasanaethu. Yn falch o gynnal cyfiawnder.

Mae ein Rheolwyr Cyflawni yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu i gyflawni cyfiawnder. Maent yn gyfrifol am reoli gweithrediadau o ddydd i ddydd o fewn eu maes. Wedi’i lywio gan ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cwsmer rhagorol trwy eu tîm, maent yn cydnabod bod ymgysylltu gyda gweithwyr, morâl a chymhelliant yn allweddol i gyflawni perfformiad hynod effeithiol. Os ydych yn canolbwyntio ar y cwsmer ac yn bwriadu darparu gwasanaeth ardderchog, yna mae hon yn rôl arwain gyffrous.

Amdanom ni

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn gyfrifol am weinyddu Llysoedd troseddol, sifil a theulu a Thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr yn ogystal â'r tribiwnlysoedd unedig gwarchodedig ar draws y Deyrnas Unedig. Mae ein rolau’n cefnogi defnyddwyr ein gwasanaethau a’n cydweithwyr o fewn GLlTEF, lle mae pobl a busnesau’n cael mynediad at gyfiawnder a allai newid bywydau. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus ac sydd am wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl i sicrhau cyfiawnder.

Ynglŷn â'ch rôl

Mae rôl y rheolwr yn ganolog i weithrediadau GLlTEF, ac mae wedi'i siapio gan Safonau Rheoli Llinell y Gwasanaeth Sifil. Mae'n rhoi llawer o foddhad, yn heriol ac yn hanfodol i'n llwyddiant. Rydym yn chwilio am reolwyr sy'n gallu arwain eu timau i gyflawni perfformiad eithriadol, rheoli presenoldeb yn effeithiol a chefnogi gwobrwyo a chydnabod.

Byddwch chi’n gyfrifol am redeg Canolfan Cyfiawnder Sifil a Theulu Caerdydd, 2 Stryd y Parc, Caerdydd CF10 1ET, gan arwain eich tîm o reolwyr EO a staff eraill a chefnogi eich Rheolwr Gweithrediadau i ddiwallu anghenion gweithredol, cyflawni targedau perfformiad, a darparu gwasanaeth cyson sydd wedi’i ganolbwyntio ar y cwsmer.

Rydych yn gyfarwydd gydag amgylchedd gwaith a gymhellir gan broses a chydymffurfiaeth. Rydych yn rhoi arweiniad a chyfarwyddyd i'ch tîm, i gefnogi darparu'r cynllun busnes cyffredinol. Byddwch yn sicrhau bod deilliannau perfformiad yn cael eu bodloni a bod gan y tîm yr adnoddau ac wedi’u hyfforddi’n effeithiol i weithio o fewn y gyllideb wedi ei dyrannu i chi, gan adnabod problemau a rhoi datrysiadau ar waith. Gallwch ddatblygu perthnasoedd effeithiol gyda holl rhanddeiliaid allweddol, fydd yn cynnwys y farnwriaeth.

Cyfeiriwch at yr atodiad proffil rôl i ddeall mwy am y swydd arweinyddiaeth allweddol hon.

Gwybodaeth, sgiliau a phrofiad hanfodol

  • Sgiliau rheoli pobl i arwain eich tim(au) yn llwyddiannus , gydag agwedd hyfforddi i gefnogi a grymuso eich pobl. Caniatáu i bobl ddatblygu'r sgiliau, hyder a phrofiad i ddelio'n annibynnol gyda materion busnes a chysylltiedig â phobl.
  • Sgiliau rheoli; gallu cynllunio, gosod mesurau perfformiad realistig, dirprwyo ac adolygu cynnydd i wella perfformiad a rheoli risgiau.
  • Gallu datblygu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol ar bob lefel. Dylanwadu a thrafod i ddatrys blaenoriaethau a materion sy'n cystadlu â'i gilydd.
  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol gan gynnwys cyflawni ac arwain ar negeseuon allweddol, gan sicrhau eu bod yn cael eu deall a'u gweithredu'n gyson.
  • Gallu dadansoddi data, nodi tueddiadau a gofynion llif gwaith i wneud penderfyniadau hysbys sy'n cyfrannu at flaenoriaethau lleol a chenedlaethol a gwella darpariaeth gwasanaeth.

Eich datblygiad

Mae ein cynnig Datblygiad Arweinyddiaeth GLlTEF wedi'i ddylunio i gryfhau eich sgiliau arweinyddiaeth, gydag adnoddau ymarferol a dysgu sy'n ffitio o amgylch eich swydd. O sesiynau dysgu byrion i weithdai rhyngweithiol, i fewnwelediadau manylach trwy ein fframwaith Atebolrwydd a Gwneud Penderfyniadau, byddwn yn rhoi'r sgiliau i chi arwain gydag effaith, ysbrydoli a sbarduno perfformiad ledled y sefydliad.

Os ydych chi’n barod i ymgymryd â rôl heriol a gwerth chweil, gyda phwrpas go iawn, gwnewch gais heddiw.

Ynglŷn â'n buddion

Rydym yn gwobrwyo ein pobl am eu gwaith caled ac ymrwymiad. Mae gennym nifer o

bolisïau gweithio hyblyg ac ystyriol o deuluoedd a fydd yn eich helpu i gyflawni cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Yn ogystal, rydym yn cynnig ystod o fuddion i weithwyr sy'n cynnwys gwyliau hael, cynllun pensiwn cyfrannol hynod gystadleuol, buddion gofal plant, tocyn tymor a benthyciadau i brynu beics.

Rhagor o fanylion:

Bydd disgwyl i recriwtiaid newydd i'r Gwasanaeth Sifil sy’n ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gychwyn ar waelod y band cyflog.

Yn y swyddi gweithredol hyn byddwch yn delio’n uniongyrchol â chwsmeriaid, ac felly bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fod wedi’u lleoli yn y swyddfa i ddarparu gwasanaethau GLlTEF i’r cyhoedd.

Yr oriau gwaith llawn amser safonol yw 37 awr yr wythnos. Mae GLlTEF yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan-amser, yn hyblyg ac i rannu swydd pan fo hynny’n bodloni gofynion y rôl ac yn diwallu anghenion y busnes, ac ar yr amod bod hyn yn cael ei gytuno cyn ichi gael eich penodi. Bydd pob cais i weithio’n rhan amser, gweithio'n hyblyg ac i rannu swydd yn cael ei ystyried yn unol â pholisi Gweithio’n Hyblyg y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Mae hyn yn rôl hanfodol i fusnes sy'n gofyn am oriau llawn.

Is there something wrong with this job listing? Let us know.